20/07/2026
🌞Grant Ynni Adnewyddadwy Gwledig Abertawe (Cronfa Twf Lleol y DU)
🎗Cyllid newydd ar gyfer Abertawe wledig
😎Mae cyllid o Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru ar gael i elusennau, grwpiau cymunedol cyfansoddiadol, sefydliadau'r trydydd sector – nid er elw, a sefydliadau cyhoeddus – nid er elw, i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ardaloedd gwledig Abertawe gyda'r nod o leihau allyriadau carbon a lleihau costau ynni i gefnogi cynaliadwyedd parhaus sefydliadau/cyfleusterau gwledig.
🪫Mae hyd at £25,000 ar gael ar gyfer y prosiectau ynni adnewyddadwy ac maent yn cael eu ha***nnu llawn.
📩Efallai y byddwn yn gallu eich helpu
E-bostiwch ni yn [email protected]
www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig
🎗Dyma enghreifftiau o sut rydym wedi helpu o'r blaen
Old Mill Foundation
🫶Gwirfoddolwyr dan arweiniad y gymuned sy'n cefnogi oedolion â diagnosis o ganser, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n ceisio gosod paneli solar, storfeydd batris a goleuadau LED pŵer ynni isel.
♨Ar ôl symud yn ddiweddar i dafarn a fu’n wag ers amser hir a'i haddasu'n ganolfan therapi canser gyda siop elusen, siop iechyd a chaffi cymunedol i’w chefnogi, mae'r elusen yn awyddus i sicrhau amgylchedd cynnes am y pris rhataf posib fel y gellir defnyddio’r a***n sy'n cael ei godi i gefnogi a thrin cleientiaid. Roedd costau ynni yn anfforddiadwy, ac roedd angen mynd i'r afael â nhw.
💡Dyfarnwyd grant ynni adnewyddadwy o £15,606.93 i'r prosiect anhygoel hwn i osod paneli solar, goleuadau LED a storfeydd batris. Fel gwirfoddolwyr, mae'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu am ddim, ond mae popeth yn dibynnu ar allu talu costau i gynnal yr adeilad. Mae'r gwaith gosod hwn yn lleihau costau ynni, gan sicrhau bod y sefydliad yn parhau i ddarparu cymorth mawr ei angen.
🌳🎁Cwblhawyd y gwaith gosod, ac mae'r elusen bellach mewn sefyllfa i symud i dariff rhatach ac allforio'r ynni dros ben i'r Grid Cenedlaethol.