17/09/2026
❤️ A dyna dymor arall wedi dod i ben! ❤️
Am dymor prysur mae hi wedi bod! Hoffem ni ddweud diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi ni unwaith eto eleni. I’r gwynebau cyfarwydd, ac i’r holl wynebau newydd sydd wedi galw draw eleni – mae wedi bod yn bleser eich gweld chi i gyd. Mae eich cefnogaeth chi’n golygu gymaint. 🥰
Wrth gwrs, fyddai dim o hyn yn bosib heb ein staff gwych. ❤️ Diolch o galon i bob un ohonoch chi am eich holl waith caled drwy gydol y tymor – yr oriau hir, yr holl help, ac wrth gwrs, yr hwyl a’r chwerthin ar hyd y ffordd! Fydden ni ddim yn gallu gwneud hyn heboch chi.
Mae diwedd y tymor yn mynd i deimlo ychydig yn wahanol eleni, gan fod 10 aelod o’n staff yn gadael i fynd i’r brifysgol. 🎓 Mae rhai yn mynd yn ôl i ddechrau eu hail flwyddyn, ac mae eraill ar fin dechrau eu blwyddyn gyntaf a phennod hollol newydd.
Pob lwc i bob un ohonoch chi! Mi fydd hi’n rhyfedd iawn yma hebddoch chi, a bydd colled fawr ar eich ôl. Gobeithio y cewch chi amser gwych, gwnewch y mwyaf o bob munud – a chofiwch ddod yn ôl i’n gweld ni pan fyddwch chi adref! ❤️
Felly, diolch unwaith eto i’n staff i gyd, i’n cwsmeriaid ffyddlon, ac i bawb sydd wedi galw draw am y tro cyntaf eleni. Diolch i chi gyd am wneud y tymor yn un mor arbennig.
Diolch o galon i chi gyd – welwn ni chi eto’n fuan! 🥂❤️
❤️ And just like that, another season has come to an end! ❤️
What another busy season it’s been! We’d like to say a huge thank you to everyone who has supported us once again this year. To the familiar faces, and all the new faces who have visited us this season – it’s been a pleasure to see you all. Your support means so much to us. 🥰
Of course, none of it would be possible without our brilliant staff. ❤️ Thank you to every single one of you for all your hard work throughout the season – the long hours, all the help, and of course, the fun and laughter along the way! We simply couldn’t do it without you.
The end of the season is going to feel a little different this year, as 10 members of our team are leaving us for university. 🎓 Some are heading back to begin their second year, while others are about to start their first year and a completely new chapter.
We wish every one of you the very best! It’s going to be very strange here without you, and you’ll all be greatly missed. We hope you have an amazing time, make the most of every minute – and remember to come back and see us when you’re home! ❤️
So, thank you once again to all our staff, our loyal customers, and everyone who has visited us for the first time this year. Thank you all for making another season such a special one.
A heartfelt thank you to you all – we’ll see you again soon! 🥂❤️